P-05-989 Cadw’r cyfyngiadau a osodwyd gan ddeddfwriaeth Covid 19, caniatáu teithio o fewn radiws o 5 milltir yn unig yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan ddeisebydd dienw, ar ôl casglu cyfanswm o 114 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Ar 29 Mai cyhoeddodd Llywodraeth Cymru newidiadau yn y cyfyngiadau a osodwyd gan reoliadau Covid 19. Cafodd y rheolau eu llacio ond mae'n dal i fod yn ofynnol i bobl aros yn lleol ac o fewn radiws o 5 milltir. Diben y rheolau hyn yw cadw cymunedau a theuluoedd yn ddiogel. Y rheswm pam mae’r rheolau pellter cymdeithasol yma i aros yw bod gennym i gyd un ddyletswydd. Atal y lledaeniad. Mae’r cyfyngiadau eisoes wedi cael eu llacio yn Lloegr a Gogledd Iwerddon ond credaf y bydd hyn yn achosi i ail a thrydydd ton ddechrau yno.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae rhai pobl yn galw am ryddid llwyr i deithio yng Nghymru. Rwy'n cydymdeimlo â hwy a gwn y gall unigedd fod yn anodd ar adegau, ond mae wedi bod yr un fath i filiynau o bobl ledled y byd. Mae gennym i gyd un ddyletswydd. Mae angen inni gadw'r ffigurau i lawr ac atal y lledaeniad. Peidiwch ag ymlacio. Teithio lleol yn unig yng Nghymru.
Cadwch bobl Cymru, ein teuluoedd a'n cymunedau yn ddiogel.
Diolch
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Merthyr Tudful a Rhymni
· Dwyrain De Cymru